Swyddi Gwag
Rhestrau swyddi agored yn HybuNifer o gyfleoedd cyfredol
Swydd fel Intern mewn Rheoli Pobl a Digwyddiadau
Mae Hybu yn elusen sy’n gweithredu yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Cynigiwn cyfleoedd i bobl ifanc o bob cefndir a gallu i gyrraedd eu potensial trwy hyfforddiant a chefnogaeth i wirfoddoli mewn cymunedau difreintiedig lleol. Maent yn derbyn hyfforddiant mewn gwirfoddoli, arweinyddiaeth a sgiliau busnes er mwyn cynllunio, datblygu a gweithredu gweithgareddau a digwyddiadau er lles eraill.
Bydd y rôl yn cynnwys:
- Gweithio gyda staff datblygu h?n ac arweinyddion y grwpiau er mwyn cefnogi’r staff oedolion gwirfoddol.
- Gweithio gydag arweinyddion y grwpiau i gefnogi’r pobl ifanc i drefnu eu gweithgareddau a digwyddiadau.
- I reoli materion Iechyd a Diogelwch a Chyfartaledd o fewn y gweithgareddau a digwyddiadau.
- Ymchwilio i, a threfnu, lleoliadau ac offer angenrheidiol ar gyfer gweithgareddau plant.
- Cyfrannu at farchnata a hysbysebu gweithgareddau a digwyddiadau.
Sgiliau Angenrheidiol:
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Y gallu i reoli a threfnu gwybodaeth ac i gadw cofnodion manwl
- Y gallu i sbarduno eu hun ac i weithio mewn tîm.
- Sgiliau cyfrifiadurol
Byddwch yn Ennill Profiad:
- Gweithio mewn tîm proffesiynol ac amrywiol
- Y cyfle i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion o bob oed
- Profiad mewn trefnu a gweithredu digwyddiadau a gweithgareddau.
- Profiad mewn hyfforddi oedolion ifanc
- Profiad gwaith gwerthfawr i ychwanegu at eich CV ynghyd â geirda ar gyfer cyflogwyr
- Cymhwyster mewn Hyfforddi Hyfforddwyr
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Byddwch yn cael eich gwirio gan y DBS
- Lleolir y gwaith yng Nghaerdydd a/neu Casnewydd
- I gychwyn cyn gynted a bo modd
- Hyd y Cytundeb: 1 flwyddyn
- Oriau: 37 awr yr wythnos (amseroedd hyblyg gan bydd angen rhywfaint o waith gyda’r nos ac ar benwythnosau)
- Cyflog: £13,564.00 y flwyddyn
Sut i wneud Cais:
Anfonwch CV a llythyr cyflwyno i’r Rheolwr Gyfarwyddwr, sef Gill James, gill@hybu.co.uk
Sicrhewch eich bod yn cynnwys y wybodaeth isod
- Eich rhif ffôn symudol a chyfeiriad post llawn
- Cyfeiriad ar gyfer e-bost yr ydych yn edrych arno yn rheolaidd
- Eich sefyllfa o ran trafnidiaeth
- Manylion am eich addysg
- Manylion am unrhyw gyflogaeth blaenorol a’r cyfnod rhoi rhybudd, os yn berthnasol
Dyddiad Cau: Medi 2017
Gweinyddwr/wraig
Cyflog: £19,000. 00. 37 awr yr wythnos. Cytundeb tymor penodedig am 1 flwyddyn. (Ystyrir trefniant Rhannu Swydd)
Mae Hybu yn elusen sydd yn hyfforddi pobl ifanc mewn gwirfoddoli, ac rydym yn chwilio am weinyddwr/wraig profiadol i gynnig cefnogaeth gweinyddol ar gyfer prosiect sydd yn cael ei ariannu gan y Loteri. Dylai ymgeiswyr feddu ar sgiliau a phrofiad ym mhob agwedd o weinyddiaeth, rheolaeth swyddfa a chadw cofnodion ariannol.
Gellir cael manylion pellach trwy e-bost: admin@hybu.co.uk neu ffoniawch 0845 890 1592 Dyddiad Cau: 14eg Awst 2017